Ein AmcanionErs sefydlu Cymdeithas Gymunedol Y Bala a Phenllyn yn 1954 ein amcanion yw gwella iechyd, bywyd a iechyd meddwl a chymdeithasol y gymuned yn ardal Y Bala a Phenllyn. Mae gennym rol bwysig i ddod a’r ardal at ei gilydd a gwneud y gymdeithas leol yn un gydlynol, gynwysedig, bleserus a chynaladwy oddi fewn cymdeithas ddiwylledig Gymreig ar draws pob oedran a gallu.GwasanaethauMae llawer iawn o weithgareddau yn cael eu cynnal yn y pafiliwn cymunedol gan gynnwys grwp dysgu oedolion, clwb cyn ac ar ol ysgol, clwb gwyliau ysgol, bingo cymunedol, grwp crefftau, dosbarthiadau cymorth cyntaf ynghyd a chwaraeon a gweithgareddau adloniant. Gallwch logi ein neuadd a meusydd chwarae yn breifat neu fel clwb, cymdeithas neu grwp.Os ydych am logi cysylltwch a ni yma.Cymryd RhanGwirfoddolwyr sydd yn rhedeg ei elusen, maent yn gweithio’n galed yn cynnal gweithgareddau a cefnogi y clybiau a’r grwpiau sydd yn defnyddio ein cyfleusterau. Gwirfoddolwyr yw yr ymddiriedolwyr a’r pwyllgor gwaith etholedig sydd yn defnyddio ei profiad, sgiliau gwahanol ac eang i reoli gweledigaeth a chyfeiriad y Gymdeithas. Ydech chi am ymuno a ni? Byddem yn falch o glywed gan unrhyw un sy’n barod i wirfoddoli ac ymuno a’r tim.AriannuMae Cymdeithas Gymunedol Y Bala a Phenllyn yn elusen cofrestredig annibynol. ‘Rydym yn ddibynnol ar incwm hurio ein cyfleusterau, ymdrechion codi arian, cystadleuaeth “Tote” wythnosol, taliadau aelodaeth gan y grwpiau sydd yn defnyddio ein cyfleusterau yn rheolaidd ac ambell i rodd. Ceisiwn hefyd am unrhyw grantiau ariannol sydd ar gael.